Hyfforddiant a Chymwysterau
Rhowch hwb i'ch rhagolygon gyrfa gyda'r sgiliau a'r dysg cywir.
Prifysgolion
Gall cael y cymwysterau ffurfiol cywir fod yn gam mawr tuag at gyrraedd y math o yrfa yr hoffech ei chael.
Mae dwy brifysgol yng Ngogledd Cymru - Glyndŵr (yn Wrecsam) a Bangor - ac mae'r ddwy’n cynnig ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol.Edrychwch ar wefannau’r prifysgolion am fwy o wybodaeth.
Mae 95.4% o’r myfyrwyr sy’n gadael Glyndŵr yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach. Darllenwch fwy.
Glyndŵr yw'r 7fed prifysgol orau yn y DU am gael swyddi i fyfyrwyr o gefndiroedd tlotach. Darllenwch fwy.
Bangor yw'r bedwaredd brifysgol orau yn y DU o ran cefnogaeth academaidd. Darllenwch fwy.
Colegau
Mae dau grŵp o golegau addysg bellach yng Ngogledd Cymru - Coleg Cambria (yng Ngogledd Ddwyrain Cymru) a Grŵp Llandrillo Menai (Gogledd Orllewin Cymru).
Fel ein prifysgolion, maent yn cynnig amrywiaeth fawr o gyrsiau - galwedigaethol ac academaidd. Ewch i’w gwefannau i gael mwy o wybodaeth.
Darparwyr hyfforddiant eraill
Gall llawer o ddarparwyr hyfforddiant eraill yng Ngogledd Cymru eich helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen arnoch.
ITeC yn Wrecsam, er enghraifft. Maen nhw wedi bod yn darparu hyfforddiant galwedigaethol ers nifer o flynyddoedd, ac yn darparu cefnogaeth i unigolion di-waith ac sy’n awyddus i wella eu sgiliau i gael gwaith.
Maent hefyd yn cefnogi pobl sydd eisoes mewn gwaith ac sydd â diddordeb mewn prentisiaethau, ac yn helpu cyflogwyr sy’n awyddus i uwchraddio sgiliau eu gweithlu.
Edrychwch ar eu gwefan am fwy o wybodaeth.
Gwella eich rhagolygon swyddi
Di-waith ond yn barod i weithio? Efallai y byddwch yn gymwys i gael help drwy'r prosiect OPUS.
Y nod yw helpu pobl 25 oed a hŷn i ddechrau gweithio, cael addysg a hyfforddiant unwaith ato, gan gynnwys help i gyrraedd a gadael cyfleoedd gwaith a allai fel arall fod yn rhy bell i ffwrdd.
Dan 25 oed? Ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant o unrhyw fath ar hyn o bryd? Efallai y byddwch yn gymwys i gael help drwy'r prosiect TRAC.
Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, y nod yw helpu pobl ifanc i gael y cyfleoedd am swyddi a sgiliau sydd eu hangen arnynt i roi hwb i'w rhagolygon hirdymor.
TRAC
Dan 25 oed? Ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant o unrhyw fath ar hyn o bryd? Efallai y byddwch yn gymwys i gael help drwy'r prosiect TRAC.
Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, y nod yw helpu pobl ifanc i gael y cyfleoedd am swyddi a sgiliau sydd eu hangen arnynt i roi hwb i'w rhagolygon hirdymor.
Eisiau rhagor o wybodaeth?
Adnoddau dysgu STEM
Rydym wedi rhoi pecyn adnoddau ar-lein at ei gilydd i helpu i ysbrydoli disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i ddysgu am bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Bydd sgiliau STEM yn bwysig iawn i economi Gogledd Cymru dros y blynyddoedd nesaf, a datblygwyd y deunyddiau addysgu gyda help cyflogwyr lleol.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol mewn addysg yn gysylltiedig â CA2, gallwch ddarllen mwy am y Ddeddf ar wefan STEM.
Adroddiad: Cymorth i bobl ifanc 16-24 oed yng Ngogledd Cymru
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'r gwasanaethau hyfforddiant a chymorth sydd ar gael yng Ngogledd Cymru i bobl 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Ei nod yw darparu cronfa ddata gymaradwy a rhanbarthol a fydd yn bwydo i mewn i ddatblygiad prosiect rhanbarthol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

