Cyfleoedd Cadwyn Gyflenwi

Ychydig iawn o fusnesau sy’n gallu gweithredu heb ddefnyddio gwasanaethau, cynnyrch neu sgiliau sy’n cael eu darparu gan fusnesau eraill.

Mae hyn yn credu cyfleoedd i gyflenwyr posibl. Wedyn mae'n bosibl y bydd angen i'r cyflenwyr hyn brynu neu is-gontractio pethau penodol. Felly mae cadwyn gyflenwi wedi'i chreu.

Y mwyaf yw'r busnes neu brosiect, y mwyaf tebygol y bydd angen defnyddio cyflenwyr ar draws amrywiaeth o feysydd. Mae nifer o gyfleoedd cadwyn gyflenwi yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, felly mae'n werth gadw golwg amdanynt.

 

Supply Chain Events
13 Mai 2021
Social Media Marketing (Virtual Classroom)
Cardiff
Virtual Classroom Goes Live! In the current climate...
13 Mai 2021
Staying Safe Online - Cyber Security - SFBW (Webinar)
St Asaph
We have a range of topics to help businesses affected...
Gweld pob digwyddiad
Wylfa Aerial
Prosiectau Allweddol

Mae prosiectau datblygu mawr fel arfer yn creu cyfleoedd mawr i fusnesau lleol. Felly mae'n werth gwybod amdanynt.

Mae o leiaf saith o brosiectau mawr ar y gweill neu'n cael eu cynllunio yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd - gan gynnwys gorsaf pŵer niwclear, carchar, parc eco a morlyn llanw.

A'r gwir yw, mae angen llawer o sgiliau, cynnyrch a gwasanaethau i adeiladu a gweithredu cyfleusterau mawr fel y rhain.

Fel arfer, mae rhai o'r pethau hyn yn allanol - ac os ydych chi yn y math iawn o ddiwydiant, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am y gwaith hwnnw ac ennill contract gwerthfawr.

Picture of Sell2Wales website on a laptop
GwerthwchiGymru

Ffordd wych arall o ganfod cyfleoedd yw chwilio ar wefan GwerthwchiGymru. Caiff ei rheoli gan Lywodraeth Cymru a'i defnyddio gan y sector cyhoeddus yn bennaf i hysbysebu contractau.

Mae cynghorau lleol, colegau, y GIG, asiantaethau amgylcheddol, gwasanaethau brys a sefydliadau cyhoeddus eraill yn defnyddio'r wefan i ddarganfod cyflenwyr gwahanol gynnyrch, gwasanaethau neu sgiliau - unrhyw beth o gefnogaeth TGCh i reoli gwastraff neu gynnal a chadw adeiladau.

Gwyliwch y fideos isod, neu ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth.