Yn dilyn llwyddiant cynlluniau tebyg yn Sir y Fflint, mae Treffynnon yng Ngogledd Cymru am gyflwyno ei chlwb menter ei hun.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r clwb cyntaf yn Shotton wedi helpu pobl leol gyda chyngor amhrisiadwy ac wedi rhoi cyfle iddynt gael hwb i gychwyn arni.
Mae gweithdai a hyfforddiant wedi helpu nifer o bobl i ddechrau eu busnes eu hunain a dechrau ffynnu yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru.
Gallwch ymuno â'r clwb a dod iddo am ddim ac mae nifer o fanteisio iddo, gan gynnwys siaradwyr gwadd a chyngor un i un gan unigolion proffesiynol y diwydiant mewn sesiynau sydd wastad yn gyfeillgar, yn llawn egni, yn gydweithredol, yn ysbrydoli ac yn llawn syniadau.
Chwilio am eiddo
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd:
“Mae Clwb Menter Shotton wedi bod yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd ac mae wir yn gam cadarnhaol gweld Clwb Menter newydd yn cael eu sefydlu yn Nhreffynnon.
“Byddwn yn annog unrhyw rai o fyd busnes ac entrepreneuriaid i ddod draw i’r sesiwn i gael gwybod mwy.
“Wir, mae rhywbeth yno i bawb – y rhai sy’n dechrau arni a'r rhai sy'n chwilio am gefnogaeth i gymryd y cam nesaf."
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am glybiau Treffynnon neu Shotton, cliciwch yma.