Bydd y cadeirydd newydd Bwrdd Cyflawni Busnes dylanwadol yn cynorthwyo i ffurfio Gweledigaeth Twf yng Ngogledd Cymru.
Mae’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn chwilio am gynrychiolydd o’r sector breifat i arwain y fforwm ar faterion diwydiant.
Bydd y Bwrdd Cyflawni Busnes yn gweithredu fel llais i weithwyr allweddol ar draws y rhanbarth, gan fwydo’r wybodaeth yn ôl i’r Bwrdd Uchelgais fel y mae'n ceisio darparu’r saith rhaglen strategol sydd yn gwneud y Fargen Dwf Gogledd Cymru o £1 biliwn.
Bydd y rhain yn cynnwys ynni carbon isel, gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau'r tir (amaethyddiaeth a thwristiaeth), tir ac eiddo, sgiliau a chyflogaeth, cysylltedd digidol, a chludiant strategol, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar filoedd o aelwydydd, busnesau a sefydliadau ar draws y rhanbarth o 2020 ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cadeirydd y Bwrdd Uchelgais ac Arweinydd Cyngor Gwynedd, y bydd y cadeirydd yn gweithredu fel “cyswllt hanfodol” rhwng busnesau a’r chwe awdurdod lleol, colegau a phrifysgolion yng Ngogledd Cymru.
“Rydym yn chwilio am rywun gyda phrofiad helaeth yn y sector preifat a all weithredu fel llysgennad ar gyfer y gymuned fusnes, a bod y llais yn y broses gwneud penderfyniadau fel yr ydym yn symud ymlaen,” dywedodd y Cynghorydd Siencyn.
“Mae’r Weledigaeth Dwf i Ogledd Cymru yn yriant allweddol yn yr economi, ac mae’r sector preifat yn rhan fawr o hyn, felly mae'n rôl bwysig iawn.
“Mae ymgynghoriadau â busnesau wedi eu gwneud, ond bydd hyn rhoi cyfle gwell i adolygu a herio darpariaeth o raglenni a phrosiectau, cynghori ar wella effaith y Fargen Dwf a hyrwyddo'r rhanbarth fel prif fuddsoddwr a lleoliad i ymwelwyr."
Ychwanegodd: “Mae’r Bwrdd Cyflawni Busnes ei hun yn hanfodol, gan sicrhau bod llais ac anghenion y diwydiant yn cael eu clywed.
“Bydd ganddynt rôl ganolog i gefnogi a dylanwadu Gweledigaeth Twf i Ogledd Cymru a chyflawni'r Fargen Dwf o £1 biliwn."
Bydd y Bwrdd Cyflawni Busnes yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o feysydd, peirianneg a gweithgynhyrchu i dwristiaeth a manwerthu, a fydd yn gwella cyfleoedd y sector breifat o fewn y Fargen Dwf a cheisio hyrwyddo dylanwad buddsoddi.
Mae’r chwiliad hwn oherwydd bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn dod â phenawdau'r telerau'r Fargen Dwf i ben ac yn cyhoeddi Cyfarwyddwr Rhaglen newydd.