Cais Twf Gogledd Cymru

Ar ddiwedd 2017 bu i bartneriaeth, sy’n cynnwys chwe chyngor gogledd Cymru, partneriaid busnes, colegau a phrifysgolion, lansio CaisTwf Gogledd Cymru yn ffurfiol.
Byddai’r cynigion yn galluogi buddsoddiad o £1.3 biliwn yn economi gogledd Cymru o fuddsoddiad bargen twf o £328m o gyfalaf a £55.4m o refeniw (cyfanswm o £383.4m).
Byddai hynny’n creu enillion o £3.40 am bob punt a werir.
Gallai dros 5,000 o swyddi gael eu creu, yn ogystal â busnesau a thai newydd (gan gynnwys tai fforddiadwy).
Mae Bwrdd Twf Gogledd Cymru – y bartneriaeth sydd y tu ôl i’r ddogfen – wedi cyflwyno’r cynigion i Lywodraethau'r DU a Chymru, ac mae llawer o waith caled a thrafodaethau bellach yn ein disgwyl.
Gallwch lawrlwytho’r ddogfen isod.