Bwrdd Cyflawni Busnes
Bydd y Bwrdd Cyflawni Busnes yn gweithredu fel llais cyflogwyr allweddol a busnesau arweiniol yn eu sectorau yn y rhanbarth.
Ymunwch a’r Bwrdd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer rôl Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni Busnes.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sector breifat brwdfrydig i roi arweiniad a chynrychioli’r sector fel
aelod ymgynghorol ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Rydym angen rhywun gyda:
- Profiad helaeth o weithio yn y sector breifat.
- Profiad helaeth mewn rôl arweinyddiaeth uwch.
- Gwybodaeth dda o Ranbarth y Gogledd.
- Rhwydwaith eang o gysylltiadau yn y sector cyhoeddus, preifat ac yn y llywodraethau.
Bydd y swydd yn derbyn cydnabyddiaeth ar lefel penodiadau cyhoeddus yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r rôl.
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 27/09/2019
- Cyfarfod y Panel a Penodiad: 18/10/2019
I drafod yn bellach neu i ymgeisio anfonwch eich CV i Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol BUEGC neu ffoniwch 01286 679162.

Bwrdd Cyflawni Busnes - Swydd ddisgrifiad Cadeirydd
[.PDF, 469.36 KB]